Hen Destament

Testament Newydd

Judith 12:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Wedi dod i fyny o'r dŵr byddai'n deisyf ar Arglwydd Dduw Israel i hyrwyddo'i chynllun i adfer plant ei bobl.

9. Byddai'n dychwelyd wedi ei phuro'i hun, ac yn aros yn y babell nes iddi gymryd pryd o fwyd gyda'r nos.

10. Ar y pedwerydd dydd, gwnaeth Holoffernes wledd i'w gaethweision ei hun, ond nid estynnodd wahoddiad i'r rhai oedd wrth eu dyletswydd.

11. Dywedodd wrth Bagoas, yr eunuch a ofalai am ei holl eiddo, “Dos yn awr a pherswadia'r Hebrëes sydd yn dy ofal i ddod atom i fwyta ac yfed gyda ni.

12. Yn wir byddai'n gywilydd inni pe baem yn caniatáu i'r fath wraig ymadael heb inni ymgyfeillachu â hi; os na allwn ei denu atom, bydd hi'n chwerthin am ein pen.”

13. Aeth Bagoas allan o ŵydd Holoffernes, a mynd at Judith a dweud: “Paid ti, ferch brydferth, â phetruso dod at f'arglwydd i'th anrhydeddu ger ei fron, i yfed gwin gyda ni mewn llawenydd, ac i fod heddiw fel un o ferched yr Asyriaid sy'n gweini yn nhŷ Nebuchadnesar.”

14. Meddai Judith wrtho: “Pwy wyf fi i wrthod f'arglwydd? Popeth fydd wrth ei fodd, fe'i gwnaf yn eiddgar, a hynny fydd fy ngorfoledd hyd ddydd fy marwolaeth.”

15. Cododd, a gwisgo amdani ei dillad gwych a holl addurniadau gwraig, ac aeth ei chaethferch a thaenu iddi ar y llawr o flaen Holoffernes y cnuau yr oedd wedi eu derbyn gan Bagoas at ei gwasanaeth bob dydd, iddi gael gorwedd arnynt i fwyta.

16. Daeth Judith i mewn a gorwedd yn ei lle. Collodd Holoffernes arno'i hun yn ei awydd amdani; cynhyrfwyd ei deimladau yn ei flys angerddol am gydorwedd â hi. Yn wir, o'r dydd cyntaf y gwelodd hi, yr oedd wedi bod yn aros ei gyfle i'w hudo.

17. Dywedodd Holoffernes wrthi, “Yf yn awr, rwy'n erfyn arnat, a bydd lawen gyda ni.”

18. Atebodd Judith: “Yn wir, f'arglwydd, mi yfaf, oherwydd heddiw yw'r diwrnod mwyaf gogoneddus yn fy mywyd er dydd fy ngeni.”

19. Cymerodd y bwyd yr oedd ei llawforwyn wedi ei baratoi, a bwyta ac yfed o'i flaen ef.

20. Llonnwyd Holoffernes ganddi, ac yfodd lawer gormod o win, mwy nag yr yfodd erioed mewn un diwrnod er dydd ei eni ef.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 12