13. Aeth Bagoas allan o ŵydd Holoffernes, a mynd at Judith a dweud: “Paid ti, ferch brydferth, â phetruso dod at f'arglwydd i'th anrhydeddu ger ei fron, i yfed gwin gyda ni mewn llawenydd, ac i fod heddiw fel un o ferched yr Asyriaid sy'n gweini yn nhŷ Nebuchadnesar.”
14. Meddai Judith wrtho: “Pwy wyf fi i wrthod f'arglwydd? Popeth fydd wrth ei fodd, fe'i gwnaf yn eiddgar, a hynny fydd fy ngorfoledd hyd ddydd fy marwolaeth.”
15. Cododd, a gwisgo amdani ei dillad gwych a holl addurniadau gwraig, ac aeth ei chaethferch a thaenu iddi ar y llawr o flaen Holoffernes y cnuau yr oedd wedi eu derbyn gan Bagoas at ei gwasanaeth bob dydd, iddi gael gorwedd arnynt i fwyta.
16. Daeth Judith i mewn a gorwedd yn ei lle. Collodd Holoffernes arno'i hun yn ei awydd amdani; cynhyrfwyd ei deimladau yn ei flys angerddol am gydorwedd â hi. Yn wir, o'r dydd cyntaf y gwelodd hi, yr oedd wedi bod yn aros ei gyfle i'w hudo.
17. Dywedodd Holoffernes wrthi, “Yf yn awr, rwy'n erfyn arnat, a bydd lawen gyda ni.”
18. Atebodd Judith: “Yn wir, f'arglwydd, mi yfaf, oherwydd heddiw yw'r diwrnod mwyaf gogoneddus yn fy mywyd er dydd fy ngeni.”
19. Cymerodd y bwyd yr oedd ei llawforwyn wedi ei baratoi, a bwyta ac yfed o'i flaen ef.
20. Llonnwyd Holoffernes ganddi, ac yfodd lawer gormod o win, mwy nag yr yfodd erioed mewn un diwrnod er dydd ei eni ef.