Hen Destament

Testament Newydd

Judith 10:5-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yna, rhoddodd i'w morwyn gostrel o win a stên o olew, ac wedi llenwi cod â bara'r radell, cacenni ffigys a thorthau o fara peilliaid, a phacio'r llestri gyda'i gilydd, rhoes y rhain hefyd i'w gofal.

6. Aethant allan at borth tref Bethulia, a chael Osias a henuriaid y dref, Chabris a Charmis, yn sefyll yno.

7. Pan welsant Judith â'i hwyneb wedi ei weddnewid a'i dillad mor wahanol, synasant yn fawr iawn at ei phrydferthwch, a dweud wrthi:

8. “Bydded i Dduw ein hynafiaid ganiatáu o'i ffafr iti gyflawni dy fwriadau er gogoniant i blant Israel a dyrchafiad i Jerwsalem.” Yna addolodd Judith Dduw a dweud:

9. “Gorchmynnwch iddynt agor porth y dref, ac mi af allan i gyflawni'r pethau y buoch yn siarad â mi amdanynt.” Gorchmynasant i'r gwŷr ifainc agor iddi, yn unol â'i chais. Gwnaethant felly,

10. ac aeth Judith allan, a'i llawforwyn gyda hi. Yr oedd gwŷr y dref yn ei gwylio hi'n mynd i lawr y mynydd nes iddi groesi'r dyffryn a diflannu o'u golwg.

11. Aeth y ddwy yn syth ymlaen trwy'r dyffryn, a daeth nifer o wylwyr yr Asyriaid i'w chyfarfod.

12. Wedi ei dal hi, dyma'i holi: “I ba bobl yr wyt ti'n perthyn? O ble y daethost? I ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd hithau: “Merch i'r Hebreaid wyf fi, yn ffoi oddi wrthynt gan eu bod ar gael eu rhoi i'w traflyncu gennych chwi.

13. Yr wyf ar fy ffordd at Holoffernes, prif gadfridog eich byddin, er mwyn rhoi gwybodaeth gywir iddo. Hysbysaf ger ei fron y ffordd i fynd a meddiannu'r holl ucheldir, a hynny heb golli'r un o'i ddynion, na cholli bywyd neb.”

14. Pan glywodd y gwŷr ei geiriau edrychasant ar ei hwyneb; yn eu golwg hwy yr oedd ei phrydferthwch yn eithriadol. Meddent wrthi:

15. “Arbedaist dy fywyd wrth frysio i lawr at ein harglwydd. Yn awr, dos i'w babell, a daw rhai o'n plith i'th hebrwng a'th drosglwyddo i'w ddwylo.

16. Pan fyddi'n sefyll o'i flaen, paid ag ofni yn dy galon, ond dywed wrtho yr hyn a ddywedaist wrthym ni, a chei dy drin yn dda ganddo.”

17. Yna, wedi dewis cant o ddynion o'u plith, fe'u hanfonasant yn osgordd iddi hi a'i morwyn, a'u harwain i babell Holoffernes.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 10