19. Yr oeddent yn synnu at ei phrydferthwch, ac o'i hachos hi yn synnu at yr Israeliaid, a'r naill yn dweud wrth y llall: “Pwy a all fychanu'r bobl hyn, a'r fath wragedd yn eu plith? Gwell fydd peidio â gadael yn fyw yr un ohonynt; os caiff y rhain fynd yn rhydd, byddant yn gallu hudo'r holl fyd.”
20. Aeth amddiffynwyr Holoffernes allan, ynghyd â'i holl weision, a'i harwain hi i mewn i'r babell.
21. Yr oedd Holoffernes yn gorffwys ar ei wely dan len a oedd wedi ei gweu â phorffor, aur, emrallt a meini gwerthfawr.
22. Wedi iddynt ddweud wrtho amdani, aeth ef allan i gyntedd y babell, a chludwyd lampau arian o'i flaen.
23. Pan ddaeth Judith wyneb yn wyneb ag ef a'i weision, synasant oll at brydferthwch ei gwedd. Syrthiodd hi ar ei hyd o'i flaen, a thalu gwrogaeth iddo, ond fe'i codwyd ar ei thraed gan ei weision.