Hen Destament

Testament Newydd

Judith 10:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl iddi beidio â'i llefain ar Dduw Israel, a gorffen yr holl eiriau hyn,

2. cododd Judith o'r fan lle y gorweddai ar ei hyd, galwodd ar ei morwyn, ac aeth i lawr i'r tŷ lle'r arferai dreulio'r Sabothau a'i dyddiau gŵyl.

3. Wedi tynnu'r sachliain a osodasai amdani, a diosg gwisg gweddwdod, ac ymolchi drosti i gyd, fe'i heneiniodd ei hun â pheraroglau drud, trin ei gwallt a rhoi penwisg ar ei phen. Rhoes amdani'r dillad yr arferai eu gwisgo yn y dyddiau llawen pan oedd ei gŵr Manasse yn fyw.

4. Wedi rhoi sandalau am ei thraed, gwisgodd yddfdorchau, breichledau, modrwyau, clustlysau a'i holl emau. Fe'i haddurnodd ei hun yn ddigon deniadol i hudo unrhyw ddyn a'i gwelai.

5. Yna, rhoddodd i'w morwyn gostrel o win a stên o olew, ac wedi llenwi cod â bara'r radell, cacenni ffigys a thorthau o fara peilliaid, a phacio'r llestri gyda'i gilydd, rhoes y rhain hefyd i'w gofal.

6. Aethant allan at borth tref Bethulia, a chael Osias a henuriaid y dref, Chabris a Charmis, yn sefyll yno.

7. Pan welsant Judith â'i hwyneb wedi ei weddnewid a'i dillad mor wahanol, synasant yn fawr iawn at ei phrydferthwch, a dweud wrthi:

8. “Bydded i Dduw ein hynafiaid ganiatáu o'i ffafr iti gyflawni dy fwriadau er gogoniant i blant Israel a dyrchafiad i Jerwsalem.” Yna addolodd Judith Dduw a dweud:

9. “Gorchmynnwch iddynt agor porth y dref, ac mi af allan i gyflawni'r pethau y buoch yn siarad â mi amdanynt.” Gorchmynasant i'r gwŷr ifainc agor iddi, yn unol â'i chais. Gwnaethant felly,

10. ac aeth Judith allan, a'i llawforwyn gyda hi. Yr oedd gwŷr y dref yn ei gwylio hi'n mynd i lawr y mynydd nes iddi groesi'r dyffryn a diflannu o'u golwg.

Darllenwch bennod gyflawn Judith 10