Hen Destament

Testament Newydd

Josua 7:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Cododd Josua yn fore drannoeth, a dod â'r Israeliaid gerbron fesul llwyth. Daliwyd llwyth Jwda.

17. Daeth â thylwythau Jwda gerbron, a daliwyd tylwyth y Sarhiaid; yna daeth â thylwyth y Sarhiaid fesul teulu, a daliwyd Sabdi.

18. Pan ddaeth â'i deulu ef gerbron fesul un, daliwyd Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda.

19. Dywedodd Josua wrth Achan, “Fy mab, rho'n awr glod a gogoniant i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Dywed imi'n awr beth a wnaethost; paid â'i gelu oddi wrthyf.”

20. Atebodd Achan, “Yn wir yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel; dyma a wneuthum:

21. ymysg yr ysbail gwelais fantell hardd o Sinar, dau can sicl o arian, a llafn aur yn pwyso hanner can sicl. Cododd blys arnaf amdanynt, ac fe'u cymerais. Y maent wedi eu cuddio yn y ddaear i mewn yn fy mhabell, gyda'r arian oddi tanodd.”

22. Anfonodd Josua negeswyr; ac wedi iddynt redeg at y babell, fe'u gwelsant wedi eu cuddio, a'r arian oddi tanodd.

23. Cymerasant hwy allan o'r babell a dod â hwy at Josua a'r holl Israeliaid, a'u gosod gerbron yr ARGLWYDD.

24. Yna bu i Josua, ac Israel gyfan gydag ef, gymryd Achan fab Sera, a'r arian a'r fantell a'r llafn aur, a'i feibion a'i ferched, a'i ychen a'i asynnod a'i ddefaid a'i babell, y cwbl a feddai, ac aethant ag ef i fyny i ddyffryn Achor.

25. Dywedodd Josua, “Am i ti ein cythryblu ni, bydd yr ARGLWYDD yn dy gythryblu dithau y dydd hwn.” A llabyddiodd Israel gyfan ef â cherrig, a llosgi'r lleill â thân ar ôl eu llabyddio.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 7