5. Dyma derfyn yr Effraimiaid yn ôl eu tylwythau: yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth yn ymestyn o Ataroth-adar yn y dwyrain hyd Beth-horon Uchaf;
6. yna âi ymlaen at y môr, at Michmetha yn y gogledd, a throi i'r dwyrain o Taanath-seilo a mynd heibio iddi i'r dwyrain at Janoha.
7. Âi i lawr o Janoha i Ataroth a Naarath, gan gyffwrdd â Jericho ac ymlaen at yr Iorddonen.
8. O Tappua âi'r terfyn tua'r gorllewin ar hyd nant Cana nes cyrraedd y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth Effraim yn ôl eu tylwythau.
9. Yr oedd yn cynnwys hefyd y trefi a neilltuwyd i Effraim yng nghanol etifeddiaeth Manasse, yr holl drefi a'u pentrefi.
10. Ni ddisodlwyd y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; felly y mae'r Canaaneaid yn byw ymysg yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ond eu bod dan lafur gorfod.