1. Yr oedd rhandir disgynyddion Joseff yn ymestyn o'r Iorddonen ger Jericho, i'r dwyrain o ddyfroedd Jericho, i'r anialwch ac i fyny o Jericho i fynydd-dir Bethel.
2. Yna âi o Fethel i Lus, a chroesi terfyn yr Arciaid yn Ataroth;
3. wedyn disgynnai tua'r gorllewin at derfyn y Jaffletiaid, cyn belled â therfyn Beth-horon Isaf a Geser, nes cyrraedd y môr.
4. Hon oedd yr etifeddiaeth a gafodd Manasse ac Effraim, meibion Joseff.
5. Dyma derfyn yr Effraimiaid yn ôl eu tylwythau: yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth yn ymestyn o Ataroth-adar yn y dwyrain hyd Beth-horon Uchaf;
6. yna âi ymlaen at y môr, at Michmetha yn y gogledd, a throi i'r dwyrain o Taanath-seilo a mynd heibio iddi i'r dwyrain at Janoha.
7. Âi i lawr o Janoha i Ataroth a Naarath, gan gyffwrdd â Jericho ac ymlaen at yr Iorddonen.