8. Y mae hanner arall y llwyth, a hefyd Reuben a Gad, wedi cymryd yr etifeddiaeth a roddodd Moses iddynt i'r dwyrain o'r Iorddonen, fel yr oedd ef, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei nodi ar eu cyfer:
9. o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd o Medeba hyd Dibon;
10. a holl ddinasoedd Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon, hyd at derfyn yr Ammoniaid,
11. a Gilead hefyd a thiriogaeth y Gesuriaid a'r Maachathiaid, sef holl fynydd-dir Hermon, a Basan i gyd hyd at Salcha,
12. sef y cwbl yn Basan o deyrnas Og a lywodraethai o Astaroth ac Edrei. Yr oedd ef yn un o weddill y Reffaim a drawyd gan Moses a'u gyrru allan.
13. Ni yrrodd yr Israeliaid y Gesuriaid a'r Maachathiaid allan, ond y maent yn byw ymysg yr Israeliaid hyd heddiw.
14. Ni roddwyd etifeddiaeth i lwyth Lefi; oherwydd offrymau trwy dân yr ARGLWYDD, Duw Israel, yw eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt.
15. Yr oedd Moses wedi rhoi etifeddiaeth i lwyth Reuben yn ôl eu teuluoedd.
16. Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd hyd at Medeba;
17. yr oedd yn cynnwys Hesbon a'i holl drefi ar y gwastadedd, Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon,
18. Jahas, Cedemoth, Meffaath,
19. Ciriathaim, Sibma, Sereth-sahar ar fynydd y glyn,
20. Beth-peor, llethrau Pisga a Beth-jesimoth,
21. sef holl drefi'r gwastadedd a holl deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon ond a laddwyd gan Moses ynghyd â thywysogion Midian, Efi, Recem, Sur, Hur a Reba, pendefigion Sihon oedd yn byw yn y wlad.
22. Yr oedd Balaam fab Beor, y dewin, yn un o'r rhai a laddwyd gan yr Israeliaid â'r cleddyf.