Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Tir yn Aros i'w Feddiannu

1. Wedi i Josua heneiddio a mynd i oed, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Yr wyt yn hen ac wedi mynd i oed, ac y mae llawer iawn o dir yn aros i'w feddiannu.

2. Dyma'r tir sydd ar ôl: holl ardaloedd y Philistiaid ac eiddo'r Gesuriaid i gyd

3. (i'r Canaaneaid y cyfrifir y tir o'r afon Sihor sydd ar drothwy'r Aifft hyd derfyn Ecron i'r gogledd, sef cylchoedd pum teyrn y Philistiaid: Gasa, Asdod, Ascalon, Gath ac Ecron), a thir yr Afiaid

4. yn y de; holl wlad y Canaaneaid, yn cynnwys Meara sy'n perthyn i'r Sidoniaid, hyd at Affec a therfyn yr Amoriaid;

5. hefyd tir y Gebaliaid a Lebanon i gyd i'r dwyrain o Baal-gad islaw Mynydd Hermon, hyd at Lebo-hamath.

6. Byddaf yn gyrru ymaith y Sidoniaid i gyd, holl drigolion y mynydd-dir, o Lebanon hyd Misreffoth-maim, o flaen yr Israeliaid; rhanna di'r etifeddiaeth i Israel fel y gorchmynnais iti.

7. Rhanna'n awr y wlad hon yn etifeddiaeth i'r naw llwyth ac i hanner llwyth Manasse.”

Rhannu'r Tir Tu Hwnt i'r Iorddonen

8. Y mae hanner arall y llwyth, a hefyd Reuben a Gad, wedi cymryd yr etifeddiaeth a roddodd Moses iddynt i'r dwyrain o'r Iorddonen, fel yr oedd ef, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei nodi ar eu cyfer:

9. o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd o Medeba hyd Dibon;

10. a holl ddinasoedd Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon, hyd at derfyn yr Ammoniaid,

11. a Gilead hefyd a thiriogaeth y Gesuriaid a'r Maachathiaid, sef holl fynydd-dir Hermon, a Basan i gyd hyd at Salcha,

12. sef y cwbl yn Basan o deyrnas Og a lywodraethai o Astaroth ac Edrei. Yr oedd ef yn un o weddill y Reffaim a drawyd gan Moses a'u gyrru allan.

13. Ni yrrodd yr Israeliaid y Gesuriaid a'r Maachathiaid allan, ond y maent yn byw ymysg yr Israeliaid hyd heddiw.

14. Ni roddwyd etifeddiaeth i lwyth Lefi; oherwydd offrymau trwy dân yr ARGLWYDD, Duw Israel, yw eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt.

15. Yr oedd Moses wedi rhoi etifeddiaeth i lwyth Reuben yn ôl eu teuluoedd.

16. Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd hyd at Medeba;

17. yr oedd yn cynnwys Hesbon a'i holl drefi ar y gwastadedd, Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon,

18. Jahas, Cedemoth, Meffaath,

19. Ciriathaim, Sibma, Sereth-sahar ar fynydd y glyn,

20. Beth-peor, llethrau Pisga a Beth-jesimoth,

21. sef holl drefi'r gwastadedd a holl deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon ond a laddwyd gan Moses ynghyd â thywysogion Midian, Efi, Recem, Sur, Hur a Reba, pendefigion Sihon oedd yn byw yn y wlad.

22. Yr oedd Balaam fab Beor, y dewin, yn un o'r rhai a laddwyd gan yr Israeliaid â'r cleddyf.

23. Yr Iorddonen a'i goror oedd terfyn llwyth Reuben; a dyna'u hetifeddiaeth yn ôl eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi.

24. Rhoddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Gad yn ôl eu teuluoedd.

25. Eu tiriogaeth hwy oedd Jaser a holl drefi Gilead a hanner tir yr Ammoniaid hyd at Aroer sydd o flaen Rabba;

26. yna o Hesbon at Ramath-mispa a Betonim, ac o Mahanaim at derfyn Lo-debar;

27. yna, yn y dyffryn, Beth-haram, Beth-nimra, Succoth a Saffon, gweddill teyrnas Sihon brenin Hesbon; yr Iorddonen oedd y terfyn at gwr isaf Môr Cinnereth i'r dwyrain o'r Iorddonen.

28. Dyma etifeddiaeth Gad yn ôl eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi.

29. Rhoddodd Moses etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse yn ôl eu teuluoeoedd.

30. Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Mahanaim ac yn cynnwys Basan i gyd, holl deyrnas Og brenin Basan, a'r cwbl o Hafoth-jair yn Basan, sef trigain tref.

31. Aeth hanner Gilead ynghyd ag Astaroth ac Edrei, dinasoedd brenhinol Og yn Basan, i feibion Machir fab Manasse, sef hanner llwyth Machir, yn ôl eu teuluoedd.

32. Dyma'r tiroedd a rannodd Moses yng ngwastadeddau Moab y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho.

33. Ond ni roddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Lefi. Yr ARGLWYDD, Duw Israel, oedd eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt.