Hen Destament

Testament Newydd

Jona 4:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn.

7. Ond gyda'r wawr drannoeth, trefnodd Duw i bryfyn nychu'r planhigyn, nes iddo grino.

8. A phan gododd yr haul trefnodd Duw wynt poeth o'r dwyrain, ac yr oedd yr haul yn taro ar ben Jona nes iddo lewygu; gofynnodd am gael marw, a dweud, “Gwell gennyf farw na byw.”

9. A gofynnodd Duw i Jona, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig o achos y planhigyn?” Atebodd yntau, “Y mae'n iawn imi deimlo'n ddig hyd angau.”

10. Dywedodd Duw, “Yr wyt ti'n tosturio wrth blanhigyn na fuost yn llafurio gydag ef nac yn ei dyfu; mewn noson y daeth, ac mewn noson y darfu.

11. Oni thosturiaf finnau wrth Ninefe, y ddinas fawr, lle mae mwy na chant ac ugain o filoedd o bobl sydd heb wybod y gwahaniaeth rhwng y llaw chwith a'r llaw dde, heb sôn am lu o anifeiliaid?”

Darllenwch bennod gyflawn Jona 4