Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dicter Jona a Thrugaredd Duw

1. Yr oedd Jona'n anfodlon iawn am hyn, a theimlai'n ddig.

2. Yna gweddïodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed.

3. Yn awr, ARGLWYDD, cymer fy mywyd oddi arnaf; gwell gennyf farw na byw.”

4. Atebodd Duw, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig?”

5. Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas.

6. A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn.

7. Ond gyda'r wawr drannoeth, trefnodd Duw i bryfyn nychu'r planhigyn, nes iddo grino.

8. A phan gododd yr haul trefnodd Duw wynt poeth o'r dwyrain, ac yr oedd yr haul yn taro ar ben Jona nes iddo lewygu; gofynnodd am gael marw, a dweud, “Gwell gennyf farw na byw.”

9. A gofynnodd Duw i Jona, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig o achos y planhigyn?” Atebodd yntau, “Y mae'n iawn imi deimlo'n ddig hyd angau.”

10. Dywedodd Duw, “Yr wyt ti'n tosturio wrth blanhigyn na fuost yn llafurio gydag ef nac yn ei dyfu; mewn noson y daeth, ac mewn noson y darfu.

11. Oni thosturiaf finnau wrth Ninefe, y ddinas fawr, lle mae mwy na chant ac ugain o filoedd o bobl sydd heb wybod y gwahaniaeth rhwng y llaw chwith a'r llaw dde, heb sôn am lu o anifeiliaid?”