1. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jona yr eildro a dweud,
2. “Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara wrthi y neges a ddywedaf fi wrthyt.”
3. Cododd Jona a mynd i Ninefe yn ôl gair yr ARGLWYDD. Yr oedd Ninefe'n ddinas fawr iawn, yn daith tridiau ar ei thraws.