Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ufudd-dod Jona

1. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jona yr eildro a dweud,

2. “Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara wrthi y neges a ddywedaf fi wrthyt.”

3. Cododd Jona a mynd i Ninefe yn ôl gair yr ARGLWYDD. Yr oedd Ninefe'n ddinas fawr iawn, yn daith tridiau ar ei thraws.

4. Yna dechreuodd Jona fynd trwy'r ddinas, ac wedi mynd daith un diwrnod cyhoeddodd, “Ymhen deugain diwrnod fe ddymchwelir Ninefe.”

5. Credodd pobl Ninefe yn Nuw, a chyhoeddasant ympryd a gwisgo sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.

6. A phan ddaeth y newydd at frenin Ninefe, cododd yntau oddi ar ei orsedd, a diosg ei fantell a gwisgo sachliain ac eistedd mewn lludw.

7. Gwnaeth broclamasiwn a'i gyhoeddi yn Ninefe:“Trwy orchymyn y brenin a'i uchelwyr:“Na fydded i ddyn nac anifail, gwartheg na defaid, brofi dim; na fydded iddynt fwyta nac yfed.

8. Bydded iddynt wisgo sachliain a galw yn daer ar Dduw. Bydded i bob un droi oddi wrth ei ffordd ddrygionus ac oddi wrth y trais sydd ar ei ddwylo.

9. Pwy a ŵyr na fydd Duw yn edifarhau eto, ac yn troi oddi wrth ei ddig mawr, fel na'n difethir ni?”

10. Pan welodd Duw beth a wnaethant, a'u bod wedi troi o'u ffyrdd drygionus, edifarhaodd am y drwg y bwriadodd ei wneud iddynt, ac nis gwnaeth.