Hen Destament

Testament Newydd

Job 40:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yna atebodd Job:

4. “Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud?Rhof fy llaw ar fy ngheg.

5. Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto;do ddwywaith, ac ni chwanegaf.”

6. Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:

7. “Gwna dy hun yn barod i'r ornest;fe holaf fi di, a chei dithau ateb.

8. A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn,ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun?

9. A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw?A fedri daranu â'th lais fel y gwna ef?

10. “Addurna dy hun â balchder ac urddas,a gwisga ogoniant a harddwch.

Darllenwch bennod gyflawn Job 40