Hen Destament

Testament Newydd

Job 40:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Cuddia hwy i gyd yn y llwch;cuddia'u hwynebau o'r golwg.

14. Yna fe'th ganmolafam fod dy law dde'n dy waredu.

15. “Edrych ar Behemoth, a greais yr un adeg â thi;y mae'n bwyta glaswellt fel yr ych.

16. Y mae ei nerth yn ei lwynau,a'i gryfder yng nghyhyrau ei fol.

17. Y mae ei gynffon yn syth fel cedrwydden,a gewynnau ei gluniau wedi eu clymu i'w gilydd.

18. Y mae ei esgyrn fel pibellau pres,a'i goesau fel barrau haearn.

19. “Ef yw'r cyntaf o'r pethau a wnaeth Duw;gwnaed ef yn deyrn dros ei gymrodyr.

20. Y mae'r mynyddoedd yn darparu ysglyfaeth iddo;yr holl anifeiliaid sy'n chwarae yno.

21. Fe orwedd dan y lotus,a chuddio yn y brwyn a'r corsydd.

22. Y mae'r lotus yn gysgod drosto,a helyg yn y nant yn ei guddio.

23. Os cyfyd yr afon drosto, ni chynhyrfa;byddai'n ddi-fraw pe bai'r Iorddonen yn llifo i'w geg.

24. A ellir ei fachu yn ei lygaid,a gwthio tryfer i'w drwyn?”

Darllenwch bennod gyflawn Job 40