Hen Destament

Testament Newydd

Job 39:20-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust,a gweryru nes creu dychryn?

21. Cura'r llawr â'i droed, ac ymffrostia yn ei nerthpan â allan i wynebu'r frwydr.

22. Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw;ni thry'n ôl rhag y cleddyf.

23. O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau,fflach y cleddyf a'r waywffon.

24. Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear;ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.

25. Pan glyw'r utgorn, dywed, ‘Aha!’Fe synhwyra frwydr o bell,trwst y capteiniaid a'u bloedd.

26. “Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfana lledu ei adenydd tua'r De?

27. Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfana gosod ei nyth yn uchel?

28. Fe drig ar y graig, ac aros ynoyng nghilfach y graig a'i diogelwch.

29. Oddi yno y chwilia am fwyd,gan edrych i'r pellter.

30. Y mae ei gywion yn llowcio gwaed;a phle bynnag y ceir ysgerbwd, y mae ef yno.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 39