Hen Destament

Testament Newydd

Job 39:19-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. “Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march,ac yn gwisgo'i war â mwng?

20. Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust,a gweryru nes creu dychryn?

21. Cura'r llawr â'i droed, ac ymffrostia yn ei nerthpan â allan i wynebu'r frwydr.

22. Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw;ni thry'n ôl rhag y cleddyf.

23. O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau,fflach y cleddyf a'r waywffon.

24. Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear;ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.

25. Pan glyw'r utgorn, dywed, ‘Aha!’Fe synhwyra frwydr o bell,trwst y capteiniaid a'u bloedd.

26. “Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfana lledu ei adenydd tua'r De?

27. Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfana gosod ei nyth yn uchel?

28. Fe drig ar y graig, ac aros ynoyng nghilfach y graig a'i diogelwch.

Darllenwch bennod gyflawn Job 39