Hen Destament

Testament Newydd

Job 34:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd Elihu:

2. “Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion;clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus.

3. Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau,fel y profir bwyd gan daflod y genau.

4. Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn,a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda.

5. Dywedodd Job, ‘Yr wyf yn gyfiawn,ond trodd Duw farn oddi wrthyf.

6. Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog;y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.’

7. Pwy sydd fel Job,yn drachtio dirmyg fel dŵr,

8. yn cadw cwmni â rhai ofer,ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?

9. Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i nebymhyfrydu yn Nuw.’

Darllenwch bennod gyflawn Job 34