Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd Elihu:

2. “Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion;clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus.

3. Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau,fel y profir bwyd gan daflod y genau.

4. Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn,a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda.

5. Dywedodd Job, ‘Yr wyf yn gyfiawn,ond trodd Duw farn oddi wrthyf.

6. Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog;y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.’

7. Pwy sydd fel Job,yn drachtio dirmyg fel dŵr,

8. yn cadw cwmni â rhai ofer,ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?

9. Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i nebymhyfrydu yn Nuw.’

10. “Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf.Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni,ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.

11. Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred,a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.

12. Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg,ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.

13. Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear,a rhoi'r byd cyfan iddo?

14. Pe byddai ef yn rhoi ei frydar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn ôl ato'i hun,

15. yna byddai pob cnawd yn marw,a phawb yn dychwelyd i'r pridd.

16. “Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn,a rho sylw i'm geiriau.

17. A all un sy'n casáu barn lywodraethu?A gondemni di'r un cyfiawn cadarn?

18. Gall ef ddweud wrth frenin, ‘Y dihiryn’,ac wrth lywodraethwyr, ‘Y cnafon’;

19. nid yw'n dangos ffafr at swyddogion,nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd,oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt.

20. Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos;trenga'r cyfoethog, a diflannu;symudir ymaith y cryf heb ymdrech.

21. “Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un,a gwêl ei holl gamau.

22. Nid oes tywyllwch na chadduglle y gall drwgweithredwyr guddio.

23. Nid oes amser wedi ei drefnui neb ddod i farn o flaen Duw;

24. y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi,ac yn gosod eraill yn eu lle.

25. Y mae'n adnabod eu gweithredoedd,ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson.

26. Y mae'n eu taro o achos eu drygioni,a hynny yng ngŵydd pawb,

27. am eu bod yn troi oddi wrtho,ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd.

28. Gwnânt i gri'r tlawd ddod ato,ac iddo glywed gwaedd yr anghenus.

29. Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg;y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais—boed genedl neu unigolyn—

30. rhag i neb annuwiol lywodraethu,a maglu pobl.

31. “Os dywed un wrth Dduw,‘Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;

32. am na allaf fi weld, hyffordda di fi;os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato’—

33. a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybioy bydd ef yn fodlon ar hynny?Ti sydd i ddewis, nid fi;traetha yr hyn a wyddost.

34. Y mae pobl ddeallus yn siarad â mi,a rhai doeth yn gwrando arnaf.

35. Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried,ac nid yw ei eiriau yn ddeallus.

36. O na phrofid Job i'r eithaf,gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg!

37. Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod,yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith,ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw.”