Hen Destament

Testament Newydd

Job 32:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Dywedais, ‘Caiff profiad maith siarad,ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.’

8. Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun,ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus.

9. Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth,ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.

10. Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf;gad i minnau ddweud fy marn.’

11. “Bûm yn disgwyl am eich geiriau,ac yn gwrando am eich deallusrwydd;tra oeddech yn dewis eich geiriau,

12. sylwais yn fanwl arnoch,ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job,nac ateb ei ddadleuon.

13. Peidiwch â dweud, ‘Fe gawsom ni ddoethineb’;Duw ac nid dyn a'i trecha.

14. Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon;ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.

15. “Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach;pallodd geiriau ganddynt.

16. A oedaf fi am na lefarant hwy,ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb?

Darllenwch bennod gyflawn Job 32