Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Araith Elihu

1. Peidiodd y tri gŵr â dadlau rhagor â Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw.

2. Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw,

3. a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio.

4. Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hŷn nag ef.

5. Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gŵr ateb i Job.

6. Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad:“Dyn ifanc wyf fi,a chwithau'n hen;am hyn yr oeddwn yn ymatal,ac yn swil i ddweud fy marn wrthych.

7. Dywedais, ‘Caiff profiad maith siarad,ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.’

8. Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun,ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus.

9. Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth,ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.

10. Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf;gad i minnau ddweud fy marn.’

11. “Bûm yn disgwyl am eich geiriau,ac yn gwrando am eich deallusrwydd;tra oeddech yn dewis eich geiriau,

12. sylwais yn fanwl arnoch,ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job,nac ateb ei ddadleuon.

13. Peidiwch â dweud, ‘Fe gawsom ni ddoethineb’;Duw ac nid dyn a'i trecha.

14. Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon;ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.

15. “Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach;pallodd geiriau ganddynt.

16. A oedaf fi am na lefarant hwy,ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb?

17. Gwnaf finnau fy rhan trwy ateb,a dywedaf fy marn.

18. Yr wyf yn llawn o eiriau,ac ysbryd ynof sy'n fy nghymell.

19. O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan,a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo.

20. Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod,rhaid i mi agor fy ngenau i ateb.

21. Ni ddangosaf ffafr at neb,ac ni wenieithiaf i neb;

22. oherwydd ni wn i sut i wenieithio;pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.”