Hen Destament

Testament Newydd

Job 26:6-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Y mae Sheol yn noeth ger ei fron,ac nid oes gorchudd dros Abadon.

7. Taena'r gogledd ar y gwagle,a gesyd y ddaear ar ddim.

8. Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau,ac ni rwygir y cwmwl odanynt.

9. Taena orchudd dros wyneb y lloer,a thyn ei gwmwl drosto.

10. Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd,yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.

11. Sigla colofnau'r nefoedd,a dychrynant pan gerydda.

12. Tawelodd y môr â'i nerth,a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb.

13. Cliriodd y nefoedd â'i wynt;trywanodd ei law y sarff wibiog.

14. Eto nid yw hyn ond ymylon ei ffyrdd;prin sibrwd a glywsom am yr hyn a wnaeth.Ond pwy a ddirnad drawiad ei nerth?”

Darllenwch bennod gyflawn Job 26