1. Yna atebodd Job:
2. “O fel yr wyt ti wedi cynorthwyo'r di-rym,a chynnal braich y di-nerth,
3. a rhoi cyngor i'r diddeall,a mynegi digonedd o wir ddoethineb!
4. I bwy yr oeddit yn traethu geiriau,a pha ysbryd a ddaeth allan ohonot?
5. Cryna'r cysgodion yn y dyfnder,a'r dyfroedd hefyd, a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
6. Y mae Sheol yn noeth ger ei fron,ac nid oes gorchudd dros Abadon.
7. Taena'r gogledd ar y gwagle,a gesyd y ddaear ar ddim.
8. Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau,ac ni rwygir y cwmwl odanynt.
9. Taena orchudd dros wyneb y lloer,a thyn ei gwmwl drosto.
10. Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd,yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.
11. Sigla colofnau'r nefoedd,a dychrynant pan gerydda.
12. Tawelodd y môr â'i nerth,a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb.
13. Cliriodd y nefoedd â'i wynt;trywanodd ei law y sarff wibiog.
14. Eto nid yw hyn ond ymylon ei ffyrdd;prin sibrwd a glywsom am yr hyn a wnaeth.Ond pwy a ddirnad drawiad ei nerth?”