Hen Destament

Testament Newydd

Job 23:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. O na wyddwn ble y cawn ef,a pha fodd i ddod at ei drigfan!

4. Yna gosodwn fy achos o'i flaen,a llenwi fy ngenau â dadleuon.

5. Mynnwn wybod sut yr atebai fi,a deall beth a ddywedai wrthyf.

6. Ai gyda'i holl nerth y dadleuai â mi?Na, ond fe roddai sylw imi.

7. Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef,a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.

8. “Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno;ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.

9. Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf;os try i'r de, nis gwelaf.

10. Ond y mae ef yn deall fy ffordd;wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.

Darllenwch bennod gyflawn Job 23