Hen Destament

Testament Newydd

Job 12:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Onid yw'r glust yn profi geiriau,fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?

12. “Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb,a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?

13. Gan Dduw y mae doethineb a chryfder,a chyngor a deall sydd eiddo iddo.

14. Os dinistria, nid adeiledir:os carchara neb, nid oes rhyddhad.

15. Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder;a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.

16. Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb;ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.

17. Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth,a gwawdia farnwyr.

18. Y mae'n datod gwregys brenhinoedd,ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.

19. Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth,a lloria'r rhai sefydledig.

20. Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt,a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.

21. Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion,a gwanhau nerth y cryfion.

22. Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch,ac yn troi'r fagddu yn oleuni.

23. Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria;fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.

Darllenwch bennod gyflawn Job 12