Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Atebodd Job:

2. “Yn wir, chwi yw'r bobl,a chyda chwi y derfydd doethineb!

3. Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau,ac nid wyf yn salach na chwi;yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?

4. “Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion,er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb;y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!

5. Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd,a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.

6. Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr,a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw—rhai wedi cael Duw dan eu bawd!

7. “Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,ac i adar y nefoedd fynegi i ti,

8. neu i blanhigion y tir dy hyfforddi,ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.

9. Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gydmai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?

10. Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw,ac anadl pob un meidrol.

11. Onid yw'r glust yn profi geiriau,fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?

12. “Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb,a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?

13. Gan Dduw y mae doethineb a chryfder,a chyngor a deall sydd eiddo iddo.

14. Os dinistria, nid adeiledir:os carchara neb, nid oes rhyddhad.

15. Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder;a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.

16. Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb;ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.

17. Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth,a gwawdia farnwyr.

18. Y mae'n datod gwregys brenhinoedd,ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.

19. Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth,a lloria'r rhai sefydledig.

20. Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt,a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.

21. Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion,a gwanhau nerth y cryfion.

22. Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch,ac yn troi'r fagddu yn oleuni.

23. Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria;fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.

24. Diddyma farn penaethiaid y ddaear,a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;

25. ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni;fe wna iddynt simsanu fel meddwon.”