Hen Destament

Testament Newydd

Job 12:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Atebodd Job:

2. “Yn wir, chwi yw'r bobl,a chyda chwi y derfydd doethineb!

3. Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau,ac nid wyf yn salach na chwi;yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?

4. “Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion,er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb;y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!

5. Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd,a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.

6. Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr,a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw—rhai wedi cael Duw dan eu bawd!

7. “Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,ac i adar y nefoedd fynegi i ti,

Darllenwch bennod gyflawn Job 12