Hen Destament

Testament Newydd

Job 10:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. “ ‘Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd,ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.

9. Cofia iti fy llunio fel clai,ac eto i'r pridd y'm dychweli.

10. Oni thywelltaist fi fel llaeth,a'm ceulo fel caws?

11. Rhoist imi groen a chnawd,a phlethaist fi o esgyrn a gïau.

12. Rhoist imi fywyd a daioni,a diogelodd dy ofal fy einioes.

13. Ond cuddiaist y rhain yn dy galon;gwn mai dyna dy fwriad.

14. Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf,ac ni'm rhyddhei o'm camwedd.

15. Os wyf yn euog, gwae fi,ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen.Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder.

Darllenwch bennod gyflawn Job 10