Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Yr wyf wedi alaru ar fy mywyd;rhoddaf ryddid i'm cwyn,llefaraf o chwerwedd fy ysbryd.

2. Dywedaf wrth Dduw, ‘Paid â'm collfarnu i;dangos imi pam y dadleui â mi.

3. Ai da yw i ti orthrymu,a throi heibio lafur dy ddwylo,a ffafrio cyngor y drygionus?

4. Ai llygaid o gnawd sydd gennyt,neu a weli di fel y gwêl y meidrol?

5. A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn,a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gŵr?

6. Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd,ac yn chwilio am fy mhechod,

7. a thithau'n gwybod nad wyf yn euog,ac nad oes a'm gwared o'th law.

8. “ ‘Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd,ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.

9. Cofia iti fy llunio fel clai,ac eto i'r pridd y'm dychweli.

10. Oni thywelltaist fi fel llaeth,a'm ceulo fel caws?

11. Rhoist imi groen a chnawd,a phlethaist fi o esgyrn a gïau.

12. Rhoist imi fywyd a daioni,a diogelodd dy ofal fy einioes.

13. Ond cuddiaist y rhain yn dy galon;gwn mai dyna dy fwriad.

14. Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf,ac ni'm rhyddhei o'm camwedd.

15. Os wyf yn euog, gwae fi,ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen.Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder.

16. Os ymffrostiaf, yr wyt fel llew yn fy hela,ac yn parhau dy orchestion yn f'erbyn.

17. Yr wyt yn dwyn cyrch ar gyrch arnaf,ac yn cynyddu dy lid ataf,ac yn gosod dy luoedd yn f'erbyn.

18. “ ‘Pam y dygaist fi allan o'r groth?O na fuaswn farw cyn i lygad fy ngweld!

19. O na fyddwn fel un heb fod,yn cael fy nwyn o'r groth i'r bedd!

20. Onid prin yw dyddiau fy rhawd?Tro oddi wrthyf, imi gael ychydig lawenydd

21. cyn imi fynd i'r lle na ddychwelaf ohono,i dir tywyllwch a'r fagddu,

22. tir y tywyllwch dudew, y gwyll a'r fagddu, goleuni fel y tywyllwch.’ ”