Hen Destament

Testament Newydd

Job 10:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Yr wyf wedi alaru ar fy mywyd;rhoddaf ryddid i'm cwyn,llefaraf o chwerwedd fy ysbryd.

2. Dywedaf wrth Dduw, ‘Paid â'm collfarnu i;dangos imi pam y dadleui â mi.

3. Ai da yw i ti orthrymu,a throi heibio lafur dy ddwylo,a ffafrio cyngor y drygionus?

4. Ai llygaid o gnawd sydd gennyt,neu a weli di fel y gwêl y meidrol?

5. A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn,a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gŵr?

6. Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd,ac yn chwilio am fy mhechod,

7. a thithau'n gwybod nad wyf yn euog,ac nad oes a'm gwared o'th law.

8. “ ‘Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd,ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.

9. Cofia iti fy llunio fel clai,ac eto i'r pridd y'm dychweli.

Darllenwch bennod gyflawn Job 10