Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 5:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Oherwydd cafwyd rhai drwg ymhlith fy mhobl;y maent yn gwylio fel un yn gosod magl,ac yn gosod offer dinistr i ddal pobl.

27. Fel y mae cawell yn llawn o adar,felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.

28. Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras.Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg;ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo,ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.

29. Onid ymwelaf â chwi am hyn?’ medd yr ARGLWYDD.‘Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 5