Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 39:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. a gadawodd yng ngwlad Jwda rai pobl dlawd nad oedd ganddynt ddim, a rhoi iddynt yr adeg honno winllannoedd a meysydd.

11. Rhoddodd Nebuchadnesar brenin Babilon orchymyn ynghylch Jeremeia trwy law Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a dweud,

12. “Cymer ef a gofala amdano; paid â gwneud dim niwed iddo, ond gwneud fel y dywed wrthyt.”

13. Yna anfonodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a Nebusasban, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag a holl benaethiaid brenin Babilon,

14. a chymryd Jeremeia o gyntedd y gwylwyr, a'i roi i Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, i'w gyrchu adref; a thrigodd ymhlith y bobl.

15. Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia pan oedd yn garcharor yng nghyntedd y gwylwyr, a dweud,

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 39