Jeremeia 38:17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Yna dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, Duw Israel: ‘Os ei allan ac ymostwng i swyddogion brenin Babilon, yna byddi fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; byddi fyw, ti a'th dylwyth.