Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 38:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Cymerodd Ebed-melech y gwŷr ac aeth i'r ystafell wisgo yn y plasty, a chymryd oddi yno hen garpiau a hen fratiau, a'u gollwng i lawr wrth raffau at Jeremeia yn y pydew.

12. A dywedodd Ebed-melech yr Ethiopiad wrth Jeremeia, “Gosod yr hen garpiau a'r bratiau dan dy geseiliau o dan y rhaffau.” Gwnaeth Jeremeia felly.

13. A thynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, a'i godi o'r pydew. Wedi hyn arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.

14. Anfonodd y Brenin Sedeceia i gyrchu'r proffwyd Jeremeia ato yn y trydydd cyntedd i dŷ'r ARGLWYDD, a dywedodd wrth Jeremeia, “Yr wyf am ofyn rhywbeth i ti; paid â chelu dim oddi wrthyf.”

15. Dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Os mynegaf i ti, oni roi fi i farwolaeth? Os rhof gyngor i ti, ni wrandewi arnaf.”

16. Ond tyngodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia yn gyfrinachol, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD, a roes einioes inni, yn fyw, ni'th rof i farwolaeth, na'th roi yng ngafael y rhai hyn sy'n ceisio dy einioes.”

17. Yna dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, Duw Israel: ‘Os ei allan ac ymostwng i swyddogion brenin Babilon, yna byddi fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; byddi fyw, ti a'th dylwyth.

18. Os nad ei allan at swyddogion brenin Babilon, rhoir y ddinas hon yng ngafael y Caldeaid, ac fe'i llosgant hi â thân, ac ni fyddi dithau'n dianc o'u gafael.’ ”

19. A dywedodd y Brenin Sedeceia wrth Jeremeia, “Y mae arnaf ofn yr Iddewon a drodd at y Caldeaid, rhag iddynt fy rhoi yn eu gafael ac iddynt fy ngham-drin.”

20. Dywedodd Jeremeia, “Ni'th roddir yn eu gafael. Gwrando yn awr ar lais yr ARGLWYDD yn yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthyt, a bydd yn dda iti, a chedwir dy einioes.

21. Os gwrthodi fynd allan, dyma'r gair a ddatguddiodd yr ARGLWYDD i mi:

22. ‘Wele, caiff yr holl wragedd a adawyd yn nhŷ brenin Jwda eu dwyn allan at swyddogion brenin Babilon, ac fe ddywedant,“Hudodd dy gyfeillion di, a buont yn drech na thi;yn awr, a'th draed wedi glynu yn y llaid, troesant draw oddi wrthyt.’ ”

23. Dygir allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u gafael, ond fe'th ddelir yng ngafael brenin Babilon, a llosgir y ddinas hon â thân.”

24. Yna dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, “Paid â gadael i neb wybod am y geiriau hyn, ac ni fyddi farw.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 38