Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 36:6-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. ond dos di, ac ar ddydd ympryd darllen o'r sgrôl, yng nghlyw'r bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, holl eiriau'r ARGLWYDD fel y lleferais hwy. Darllen hwy hefyd yng nghlyw holl bobl Jwda a ddaw o'u dinasoedd.

7. Efallai y derbynnir eu gweddi gan yr ARGLWYDD, ac y bydd pob un yn troi o'i ffordd ddrygionus, oherwydd y mae'r llid a'r digofaint a fynegodd yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl hyn yn fawr.”

8. Gwnaeth Baruch fab Nereia bob peth a orchmynnodd y proffwyd Jeremeia iddo, a darllenodd yn nhŷ'r ARGLWYDD eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr.

9. Yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, yn y nawfed mis, cyhoeddwyd ympryd gerbron yr ARGLWYDD i drigolion Jerwsalem ac i'r holl bobl a ddaeth o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.

10. Yna darllenodd Baruch holl eiriau Jeremeia o'r sgrôl yng nghlyw'r holl bobl yn nhŷ'r ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia fab Saffan, yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf wrth y fynedfa i'r Porth Newydd yn nhŷ'r ARGLWYDD.

11. Pan glywodd Michaia fab Gemareia, fab Saffan, holl eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr,

12. aeth i lawr i dŷ'r brenin, i ystafell yr ysgrifennydd, ac yno yr oedd yr holl swyddogion yn eistedd: Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia fab Semaia, ac Elnathan fab Achbor, a Gemareia fab Saffan, a Sedeceia fab Hananeia, a'r holl swyddogion.

13. Mynegodd Michaia iddynt bob peth a glywodd pan ddarllenodd Baruch o'r sgrôl yng nghlyw'r bobl.

14. Yna anfonodd yr holl swyddogion Jehudi fab Nethaneia, fab Selemeia, fab Cushi, at Baruch a dweud, “Cymer yn dy law y sgrôl a ddarllenaist yng nghlyw'r bobl, a thyrd.” Cymerodd Baruch fab Nereia y sgrôl yn ei law, ac aeth atynt.

15. Dywedasant hwythau wrtho, “Eistedd yma, a darllen hi inni.” Darllenodd Baruch,

16. a phan glywsant y geiriau, troesant at ei gilydd mewn braw, a dweud wrth Baruch, “Rhaid inni fynegi hyn i gyd i'r brenin.”

17. Gofynasant i Baruch, “Eglura inni yn awr sut y bu iti ysgrifennu'r holl eiriau hyn a ddywedodd.”

18. Atebodd Baruch, “Ef ei hun oedd yn llefaru wrthyf yr holl eiriau hyn, a minnau'n eu hysgrifennu ag inc ar y sgrôl.”

19. Yna dywedodd y swyddogion wrth Baruch, “Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia, a pheidiwch â gadael i neb wybod lle'r ydych.”

20. Yna aethant at y brenin i'r llys, ar ôl iddynt gadw'r sgrôl yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd, a mynegwyd y cwbl yng nghlyw'r brenin.

21. Yna anfonwyd Jehudi gan y brenin i gyrchu'r sgrôl, a daeth yntau â hi o ystafell Elisama yr ysgrifennydd; a darllenodd Jehudi hi yng nghlyw'r brenin a'r holl swyddogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.

22. Y nawfed mis oedd hi, ac yr oedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy, a'r rhwyll dân wedi ei chynnau o'i flaen.

23. Pan fyddai Jehudi wedi darllen tair neu bedair colofn, torrai'r brenin hwy â chyllell yr ysgrifennydd, a'u taflu i'w llosgi yn y rhwyll dân, nes difa'r sgrôl gyfan yn y tân.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 36