Jeremeia 36:14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Yna anfonodd yr holl swyddogion Jehudi fab Nethaneia, fab Selemeia, fab Cushi, at Baruch a dweud, “Cymer yn dy law y sgrôl a ddarllenaist yng nghlyw'r bobl, a thyrd.” Cymerodd Baruch fab Nereia y sgrôl yn ei law, ac aeth atynt.