Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 27:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Pam y byddwch farw, ti a'th bobl, trwy'r cleddyf a newyn a haint, yn ôl yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD am y genedl na fydd yn gwasanaethu brenin Babilon?

14. Peidiwch â gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n dweud wrthych, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’ Oherwydd y maent yn proffwydo celwydd i chwi.

15. Yn wir, nid myfi a'u hanfonodd,” medd yr ARGLWYDD, “ond proffwydo'n gelwyddog y maent yn fy enw i, er mwyn i mi eich alltudio chwi ac i chwi drengi, chwi a'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi.”

16. Yna lleferais wrth yr offeiriaid a'r holl bobl hyn, gan ddweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Peidiwch â gwrando ar eiriau eich proffwydi sy'n proffwydo i chwi fod llestri tŷ'r ARGLWYDD i'w dwyn yn ôl o Fabilon yn awr ar fyrder. Y maent yn proffwydo celwydd i chwi;

17. peidiwch â gwrando arnynt, ond gwasanaethwch frenin Babilon, er mwyn ichwi gael byw. Pam y bydd y ddinas hon yn anghyfannedd?

18. Os proffwydi ydynt, ac os yw gair yr ARGLWYDD ganddynt, boed iddynt ymbil yn awr ar ARGLWYDD y Lluoedd rhag i'r llestri a adawyd yn nhŷ'r ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda ac yn Jerwsalem, fynd i Fabilon.’

19. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd ynghylch y colofnau, y môr a'r trolïau, ac ynghylch gweddill y llestri a adawyd yn y ddinas hon,

20. heb eu cymryd ymaith gan Nebuchadnesar brenin Babilon pan gaethgludodd Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, o Jerwsalem i Fabilon, ynghyd â holl uchelwyr Jwda a Jerwsalem.

21. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ynghylch y llestri a adawyd yn nhŷ'r ARGLWYDD a thŷ brenin Jwda a Jerwsalem:

22. ‘I Fabilon y dygir hwy, ac yno y byddant hyd y dydd y ceisiaf fi hwy,’ medd yr ARGLWYDD; ‘yna fe'u cyrchaf a'u hadfer i'r lle hwn.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 27