Yna lleferais wrth yr offeiriaid a'r holl bobl hyn, gan ddweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Peidiwch â gwrando ar eiriau eich proffwydi sy'n proffwydo i chwi fod llestri tŷ'r ARGLWYDD i'w dwyn yn ôl o Fabilon yn awr ar fyrder. Y maent yn proffwydo celwydd i chwi;