Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 9:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch,epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi.”

8. Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud,

9. “Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod â chwi ac â'ch had ar eich ôl,

10. ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch.

11. Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear.”

12. A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif:

13. gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.

14. Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl,

15. a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd.

16. Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 9