Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 42:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yr oedd Joseff wedi adnabod ei frodyr, ond nid oeddent hwy'n ei adnabod ef.

9. Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, “Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”

10. Dywedasant hwythau wrtho, “Na, arglwydd, y mae dy weision wedi dod i brynu bwyd.

11. Meibion un gŵr ydym ni i gyd, a dynion gonest; nid ysbiwyr yw dy weision.”

12. Meddai yntau wrthynt, “Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”

13. Atebasant, “Deuddeg brawd oedd dy weision, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan; y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad, ond nid yw'r llall yn fyw.”

14. Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Y gwir amdani yw mai ysbiwyr ydych.

15. Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired â bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma.

16. Anfonwch un o'ch plith i gyrchu eich brawd, tra byddwch chwi yng ngharchar; felly y profir eich geiriau, i wybod a ydynt yn wir. Os nad ydynt, cyn wired â bod Pharo'n fyw, ysbiwyr ydych.”

17. A rhoddodd hwy i gyd yng ngharchar am dridiau.

18. Ar y trydydd diwrnod dywedodd Joseff wrthynt, “Fel hyn y gwnewch er mwyn ichwi gael byw, oherwydd yr wyf yn ofni Duw:

19. os ydych yn wŷr gonest, cadwer un brawd yng ngharchar, a chewch chwithau gludo ŷd at angen eich teuluoedd,

20. a dod â'ch brawd ieuengaf ataf. Felly y ceir gweld eich bod yn dweud y gwir, ac ni byddwch farw.” Dyna a wnaed.

21. Yna dywedasant wrth ei gilydd, “Yn wir, yr ydym yn haeddu cosb o achos ein brawd, am inni weld ei ofid ef pan oedd yn ymbil arnom, a gwrthod gwrando; dyna pam y daeth y gofid hwn arnom.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 42