Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 38:9-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ond gwyddai Onan nad ei eiddo ef fyddai'r teulu; ac felly, pan âi at wraig ei frawd, collai ei had ar lawr, rhag rhoi plant i'w frawd.

10. Yr oedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a pharodd iddo yntau farw.

11. Yna dywedodd Jwda wrth ei ferch-yng-nghyfraith Tamar, “Aros yn weddw yn nhŷ dy dad nes i'm mab Sela dyfu”; oherwydd yr oedd arno ofn iddo yntau hefyd farw fel ei frodyr. Felly aeth Tamar i fyw yn nhŷ ei thad.

12. Ymhen amser, bu farw gwraig Jwda, merch Sua; ac wedi ei dymor galar aeth Jwda a'i gyfaill Hira yr Adulamiad i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid.

13. Pan fynegwyd i Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith wedi mynd i Timnath i gneifio,

14. tynnodd wisg ei gweddwdod oddi amdani, a gwisgo gorchudd a'i lapio amdani. Yna aeth i eistedd wrth borth Enaim ar y ffordd i Timnath; oherwydd yr oedd yn gweld bod Sela wedi dod i oed ac nad oedd hi wedi ei rhoi'n wraig iddo.

15. Gwelodd Jwda hi a thybiodd mai putain ydoedd, gan ei bod wedi cuddio'i hwyneb.

16. Trodd ati ar y ffordd a dweud, “Tyrd, gad i mi gael cyfathrach â thi.” Ond ni wyddai mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Atebodd hithau, “Beth a roi di imi, os cei gyfathrach â mi?”

17. Dywedodd, “Anfonaf i ti fyn gafr o'r praidd.” Atebodd hithau, “A roi di wystl imi nes iti ei anfon?”

18. Gofynnodd yntau, “Beth a rof iti'n wystl?” Atebodd hithau, “Dy sêl a'r llinyn, a'th ffon sydd yn dy law.” Wedi iddo eu rhoi iddi, cafodd gyfathrach â hi, a beichiogodd hithau.

19. Yna, wedi iddi godi a mynd ymaith, tynnodd ei gorchudd a rhoi amdani wisg ei gweddwdod.

20. Anfonodd Jwda y myn gafr yng ngofal ei gyfaill yr Adulamiad, er mwyn cael y gwystl yn ôl gan y wraig, ond ni allai ddod o hyd iddi.

21. Holodd ddynion y lle a dweud, “Ble mae'r butain y cysegr oedd ar y ffordd yn Enaim?” Ac atebasant, “Nid oes putain y cysegr yma.”

22. Felly dychwelodd at Jwda a dweud, “Ni chefais hyd iddi; a dywedodd dynion y lle nad oedd putain y cysegr yno.”

23. Yna dywedodd Jwda, “Bydded iddi eu cadw, neu byddwn yn destun cywilydd; anfonais i y myn hwn, ond methaist gael hyd iddi.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 38