Genesis 38:18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Gofynnodd yntau, “Beth a rof iti'n wystl?” Atebodd hithau, “Dy sêl a'r llinyn, a'th ffon sydd yn dy law.” Wedi iddo eu rhoi iddi, cafodd gyfathrach â hi, a beichiogodd hithau.