Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 28:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. A daeth arno ofn, ac meddai, “Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.”

18. Cododd Jacob yn fore, a chymerodd y garreg a fu dan ei ben, a gosododd hi'n golofn, a thywallt olew drosti.

19. Galwodd y lle, Bethel, ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.

20. Yna gwnaeth Jacob adduned, a dweud, “Os bydd Duw gyda mi, ac yn fy nghadw'n ddiogel ar fy nhaith, a rhoi imi fara i'w fwyta a dillad i'w gwisgo,

21. a minnau'n dychwelyd mewn heddwch i dŷ fy nhad, yna bydd yr ARGLWYDD yn Dduw i mi,

22. a bydd y garreg hon a osodais yn golofn yn dŷ i Dduw; ac o bob peth a roi i mi, mi rof ddegwm i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 28