10. Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran.
11. A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.
12. Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi.
13. A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;
14. bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.
15. Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi'n ôl i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.”
16. Pan ddeffrôdd Jacob o'i gwsg, dywedodd, “Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i.”
17. A daeth arno ofn, ac meddai, “Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thÅ· i Dduw, a dyma borth y nefoedd.”