Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 20:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Yna cymerodd Abimelech ddefaid, ychen, gweision a morynion, a'u rhoi i Abraham, a rhoes ei wraig Sara yn ôl iddo.

15. A dywedodd Abimelech, “Dyma fy ngwlad o'th flaen; cei fyw lle bynnag y dymuni.”

16. A dywedodd wrth Sara, “Dyma fi wedi rhoi i'th frawd fil o ddarnau arian; bydd hyn yn dy glirio ac yn dy gyfiawnhau'n llwyr yng ngŵydd pawb sydd gyda thi.”

17. Yna gweddïodd Abraham ar Dduw, ac iachaodd Duw Abimelech a'i wraig a'i forynion; a chawsant blant.

18. Oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi llwyr atal bob planta yn nheulu Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 20