1. Ymdeithiodd Abraham oddi yno i ardal y Negef, a byw rhwng Cades a Sur. Arhosodd dros dro yn Gerar,
2. ac yno dywedodd Abraham am ei wraig Sara, “Fy chwaer yw hi”; ac anfonodd Abimelech brenin Gerar am Sara, a'i chymryd.
3. Ond daeth Duw at Abimelech mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, “Fe fyddi farw o achos y wraig a gymeraist, oherwydd gwraig briod yw hi.”
4. Ond nid oedd Abimelech wedi nesáu ati; a dywedodd, “ARGLWYDD, a leddi di bobl ddiniwed?
5. Oni ddywedodd ef wrthyf, ‘Fy chwaer yw hi’, a hithau, ‘Fy mrawd yw ef’? Gwneuthum hyn â chydwybod dawel a dwylo glân.”
6. Yna dywedodd Duw wrtho yn y freuddwyd, “Mi wn iti wneud hyn â chydwybod dawel; cedwais innau di rhag pechu yn f'erbyn, a dyna pam na adewais iti ei chyffwrdd.
7. Yn awr, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr, oherwydd proffwyd yw ac fe weddïa trosot, fel y byddi fyw. Ond os na roi hi'n ôl, deall di y byddi'n siŵr o farw, ti a'th dylwyth.”
8. Cododd Abimelech yn fore, a galw ei holl weision a dweud wrthynt am yr holl bethau hyn; a chafodd y dynion fraw mawr.
9. Yna galwodd Abimelech am Abraham a dweud wrtho, “Beth a wnaethost i ni? Sut yr wyf fi wedi pechu yn dy erbyn, i beri iti ddwyn pechod mawr arnaf fi a'm teyrnas? Yr wyt wedi gwneud pethau i mi na ddylid eu gwneud.”
10. Dywedodd Abimelech ymhellach wrth Abraham, “Beth oedd yn dy feddwl wrth wneud y peth hwn?”
11. Atebodd Abraham, “Mi feddyliais nad oedd neb yn ofni Duw yn y lle hwn, ac y byddent yn fy lladd o achos fy ngwraig.