9. Gofynasant iddo, “Ble mae dy wraig Sara?” Atebodd yntau, “Dyna hi yn y babell.”
10. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dof yn ôl atat yn sicr yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara dy wraig fab.” Yr oedd Sara yn gwrando wrth ddrws y babell y tu ôl iddo.
11. Yr oedd Abraham a Sara yn hen, mewn gwth o oedran, ac yr oedd arfer gwragedd wedi peidio i Sara.
12. Am hynny, chwarddodd Sara ynddi ei hun, a dweud, “Ai wedi imi heneiddio, a'm gŵr hefyd yn hen, y caf hyfrydwch?”
13. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, “Pam y chwarddodd Sara a dweud, ‘A fyddaf fi'n wir yn planta, a minnau'n hen?’
14. A oes dim yn rhy anodd i'r ARGLWYDD? Dof yn ôl atat ar yr amser penodedig, yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara fab.”
15. Gwadodd Sara iddi chwerthin, oherwydd yr oedd arni ofn. Ond dywedodd ef, “Do, fe chwerddaist.”
16. Pan aeth y gwŷr ymlaen oddi yno, ac edrych i lawr tua Sodom, aeth Abraham gyda hwy i'w hebrwng.
17. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho'i hun, “A gelaf fi rhag Abraham yr hyn yr wyf am ei wneud,
18. oherwydd yn ddiau daw Abraham yn genedl fawr a chref, a bendithir holl genhedloedd y ddaear ynddo?