4. Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden,
5. a dof finnau â thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas.” Ac meddant, “Gwna fel y dywedaist.”
6. Brysiodd Abraham i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia i estyn tri mesur o flawd peilliaid, tylina ef, a gwna deisennau.”
7. Yna rhedodd Abraham at y gwartheg, a chymryd llo tyner a da a'i roi i'w was; a brysiodd yntau i'w baratoi.
8. Cymerodd gaws a llaeth a'r llo yr oedd wedi ei baratoi, a'u gosod o'u blaenau; yna safodd gerllaw o dan y goeden tra oeddent yn bwyta.
9. Gofynasant iddo, “Ble mae dy wraig Sara?” Atebodd yntau, “Dyna hi yn y babell.”
10. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dof yn ôl atat yn sicr yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara dy wraig fab.” Yr oedd Sara yn gwrando wrth ddrws y babell y tu ôl iddo.
11. Yr oedd Abraham a Sara yn hen, mewn gwth o oedran, ac yr oedd arfer gwragedd wedi peidio i Sara.
12. Am hynny, chwarddodd Sara ynddi ei hun, a dweud, “Ai wedi imi heneiddio, a'm gŵr hefyd yn hen, y caf hyfrydwch?”
13. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, “Pam y chwarddodd Sara a dweud, ‘A fyddaf fi'n wir yn planta, a minnau'n hen?’
14. A oes dim yn rhy anodd i'r ARGLWYDD? Dof yn ôl atat ar yr amser penodedig, yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara fab.”