Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 18:21-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. disgynnaf i weld a wnaethant yn hollol yn ôl y gŵyn a ddaeth ataf; os na wnaethant, caf wybod.”

22. Pan drodd y gwŷr oddi yno a mynd i gyfeiriad Sodom, yr oedd Abraham yn dal i sefyll gerbron yr ARGLWYDD.

23. A nesaodd Abraham a dweud, “A wyt yn wir am ddifa'r cyfiawn gyda'r drygionus?

24. Os ceir hanner cant o rai cyfiawn yn y ddinas, a wyt yn wir am ei dinistrio a pheidio ag arbed y lle er mwyn yr hanner cant cyfiawn sydd yno?

25. Na foed iti wneud y fath beth, a lladd y cyfiawn gyda'r drygionus, nes bod y cyfiawn yr un fath â'r drygionus. Na ato Duw! Oni wna Barnwr yr holl ddaear farn?”

26. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Os caf yn ninas Sodom hanner cant o rai cyfiawn, arbedaf yr holl le er eu mwyn.”

27. Atebodd Abraham a dweud, “Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD, a minnau'n ddim ond llwch a lludw.

28. Os bydd pump yn eisiau o'r hanner cant o rai cyfiawn, a ddinistri di'r holl ddinas oherwydd pump?” Dywedodd yntau, “Os caf yno bump a deugain, ni ddinistriaf hi.”

29. Llefarodd eto wrtho a dweud, “Beth os ceir deugain yno?” Dywedodd yntau, “Nis gwnaf er mwyn y deugain.”

30. Yna dywedodd, “Na ddigied yr ARGLWYDD os llefaraf. Ond beth os ceir yno ddeg ar hugain?” Dywedodd yntau, “Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.”

31. Yna dywedodd, “Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD. Beth os ceir yno ugain?” Dywedodd yntau, “Ni ddinistriaf hi er mwyn yr ugain.”

32. Yna dywedodd, “Peidied yr ARGLWYDD â digio wrthyf am lefaru y tro hwn yn unig. Beth os ceir yno ddeg?” Dywedodd yntau, “Ni ddinistriaf hi er mwyn y deg.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 18